Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Mai
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4291
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 2 a 4 - 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiynau 3 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.14
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith TG yng Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr? TAQ(5)0173(HWS)
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y 1,761 o geisiadau Glastir sydd heb eu talu o hyd?
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad ar y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia.
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar Bioamrywiaeth ym Mhenparcau.
Gwnaeth David Rees ddatganiad ar y Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol.
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6301 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
11 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6305 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
2. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail rifo yn unol â hynny:
Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda'r cwmnïau perthnasol i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi'n arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei ddioddef.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6305 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
2. Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn.
3. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda'r cwmnïau
perthnasol i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi'n
arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei
ddioddef.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6308 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi anawsterau parhaus o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol (gan gynnwys meddygon) mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig Cymru wledig a gogledd Cymru.
2. Yn galw am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel rhan o ddatblygiad Cymru gyfan tuag at gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.
2. Yn nodi:
a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o'r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016;
b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac
c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
21 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
1 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6308 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.
2. Yn nodi:
a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o'r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016;
b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac
c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
16 |
5 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6310 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd Cymru.
2. Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru.
3. Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau isel a thlodi yn broblemau sylweddol yng nghymoedd de Cymru.
4. Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de Cymru gan Lywodraethau Cymru a'r DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) creu Asiantaeth Ddatblygu'r Cymoedd sydd â'r grym a'r atebolrwydd priodol;
b) gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac
c) rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y cymoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar draws y DU.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy'n nes at eu cartrefi.
3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran:
a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o'r swyddi hyn yng nghymunedau'r cymoedd;
b) paratoi dull newydd o fynd i'r afael â datblygu economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn;
c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy'n cefnogi economïau rhanbarthol mwy cydnerth ac sy'n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol;
d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru sy'n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol;
e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion economaidd, fel y cymoedd; ac
f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau'r cymoedd ac ar draws Cymru fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
20 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6309 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).
2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a'i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU.
3. Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.
4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o 0.7 y cant yng nghyfraith y DU.
5. Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario'n anghynhyrchiol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.
7. Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
42 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol.
2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6309 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol.
2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 19.05
Daeth y cyfarfod i ben am 19.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Mai 2017